Ar hyn o bryd rydych yn: Cartref > Cymru 2011
Thursday - Leeds Thursday - Leeds Friday - Manchester Friday  - Manchester Wednesday - Birmingham Area Wednesday - Birmingham Area Tuesday - Bristol Tuesday - Bristol Monday - London Monday - London

Cymru 2011

Mae cynlluniau LACA yn barod, ac mae Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol ar fin cychwyn teithio o amgylch y wlad gan ymweld ag ysgol newydd yn ddyddiol. Gallwch weld ar y map ble bydd hynt y daith, ac os wnewch chi glicio ar ddelwedd graffig pob diwrnod unigol isod, fe gewch ragor o wybodaeth.

Nod pob diwrnod yw hybu prydau ysgol iach i ddisgyblion a myfyrwyr mewn ffordd hwyliog a diddorol. Y mwyaf y gwnaiff pob un ohonom i hybu diddordeb mewn bwyd iach yn yr ysgol, y mwyaf y bydd y genhedlaeth nesaf yn llwyddo i dyfu’n iachach ac yn fwy heini. Fel hyn, gallwn eu cynorthwyo i fwynhau eu bywyd yn llawn.

Gallwch lawrlwytho llawer o eitemau yn cynnwys cwisiau gan Change4Life, fideos yn cynnwys un am arwr Rhyfel y Falkland, Simon Weston, taflenni ryseitiau a thaflenni gweithgareddau. Efallai y byddwn yn ymweld ag ysgol yn eich ymyl chi, felly dewch draw i gael golwg.

Diolch i’r holl athrawon a’r arlwywyr ysgol sydd wedi cefnogi’r daith, oherwydd ni fyddai hynny’n bosibl heb eu cymorth. Bydd nifer o weithgareddau gwych yn digwydd, a rhoddir adroddiad o weithgareddau pob diwrnod yn www.iloveschoolmeals.co.uk. Bydd hyn yn cynnwys fideos ac yr ydym yn gobeithio darlunio hwyl y digwyddiadau.