Rydych yn: Cartref > NSMW 2010 > Dydd Mercher
Dewch i Ddawnsio
 - Dydd Mercher 10fed Tachwedd 2010
Wednesday 10th November 2010

Byddwch yn barod i deimlo'r rhythm heddiw wrth i ni ddod â dawns i fywydau disgyblion o amgylch y wlad. Mae dawns yn ffordd wych o wneud ymarfer corff sy'n llawer o hwyl, p'un a ydych yn ei wneud ar eich pen eich hun neu mewn grŵp. Mae LACA wedi ymuno ag Athro Dawns Ieuenctid proffesiynol, Hannah Bayston, i greu trefn dawns stryd yn arbennig ar gyfer Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol.

Does dim angen unrhyw offer dawns na phrofiad i wneud y symudiadau hyn, dim ond llawer o egni ac ychydig o le i symud. Yn gyntaf, gwyliwch y fideo llawn o Hannah yn gwneud y ddawns ac yna dysgwch bob symudiad yn unigol gan ddilyn cyfarwyddyd syml Hannah. Peidiwch â phoeni os na allwch wneud yr holl symudiadau ar unwaith, ond gwnewch y rhai rydych yn eu mwynhau, a pharhewch i ymarfer. Pan fyddwch wedi dysgu'r holl symudiadau gallech ychwanegu eich symudiadau eich hun i'r drefn.

Rydyn ni am wneud yn siwr bod disgyblion yn yfed llawer o ddŵr tra'n gwneud ymarfer corff. Gallant ddysgu pam bod hyn mor bwysig drwy gwblhau Taflen Weithgaredd heddiw.

Dance Activity Sheet
Taflen Weithgaredd Dawns

Gwnewch yn siwr na fyddwch yn dadhydradu wrth ddawnsio, os bydd syched arnoch, rydych wedi dadhydradu'n barod. Llwythwch y daflen weithgaredd i lawr i wneud ymarfer 'beth yw'r gwahaniaeth'.

Full Dance Routine

Trefn Lawn y Ddawns

Gwyliwch Hannah Bayston yn dawnsio'r ddawns gyfan a cheisiwch gyfrif yr wyth curiad yn y gerddoriaeth.

Why I love dancing

Pam rwy'n caru dawnsio

Gwyliwch i weld pam bod Hannah Bayston yn caru dawnsio, efallai fyddwch chi am roi cynnig arni!