Ar hyn o bryd rydych yn: Cartref > CYMRU 2009 > Dydd Mercher – Cadw’n Heini
Cadw’n Heini
Dydd Mercher yr 11eg o Dachwedd
Dydd Mercher yr 11eg o Dachwedd

Ydych chi eisiau trio rhywbeth gwahanol heddiw? Mae ymarfer corff yn gwneud i bawb deimlo’n ffantastig felly beth am fywiogi’ch dydd Mercher trwy gadw’n heini. Ymunwch â Colin Jackson ar-lein a bydd e’n dangos amrywiaeth o ymarferion hwylus gallwch chi wneud adref neu yn yr ysgol. Does dim angen unrhyw offer arbenigol, dim ond amser, lle a llawer o egni.

Gallwch greu pwysau gan ddefnyddio tuniau o ffrwythau neu ffa pob. Mae mor hawdd a hynny! Sicrhewch eich bod yn dilyn cyngor diogelwch Colin ac os ydych chi’n teimlo unrhyw boen, stopiwch ar unwaith.



Darganfyddwch fwy am Colin Jackson a pham dylech chi gymryd rhan yn y Diwrnod Cadw’n Heini

Dewch i adnabod Colin Jackson ychydig yn well wrth iddo siarad am ei yrfa chwaraeon

Gwyliwch Colin yn dangos sut i wneud yr ymarfer hwn i weithio cyhyrau’ch stumog



Lawr lwytho’r Cylched Mwy o Fideos Cadw’n Heini

Dydd Llun
Dewch i Fwyta
Dydd Mawrth
Dewch i Gefnogi
Dydd Mercher
Dewch i Ddawnsio
Dydd Iau
Dewch i Gofio
Dydd Gwener
Dewch i Chwerthin