Ar hyn o bryd rydych yn: Cartref > CYMRU 2009 > Dydd Mawrth – Coginiwch > Fideos Coginiwch > Debbie Mumford – Coginio Rosti Tatws

Debbie Mumford – Coginio Rosti Tatws


Leon – Iawn, y rhan olaf yw’r Rosti Tatws, sut ydyn ni’n dechrau gyda hwn?

Debbie – Felly, rydw i wedi plicio’r tatws a nawr rydw i’n mynd i’w gratio, yn barod i goginio.

Leon – Felly wyt ti’n defnyddio ochr gwahanol o’r gratiwr?

Debbie – Ydw, yr ochr mwy.

Leon – Mae’n edrych ychydig fel caws, yn dydy hi blant.

Plant – Ydy mae’n edrych fel caws, mae’r un lliw.

Leon – Felly ble mae’n mynd o fan hyn? Unwaith i chi orffen y gratio beth sy’n digwydd?

Debbie – Rydw i’n mynd i wasgu’r holl ddŵr allan a’i roi mewn padell ffrio gydag ychydig o olew a’i goginio.

Leon – Dwi’n gweld.

Plentyn – Pa mor hir bydd e’n cymryd i goginio?

Debbie – Dim yn hir iawn, tua deg munud.

Leon - Wow.

Debbie – Pwy sydd eisiau dod i goginio hwn gyda fi?

Plentyn - Fi!

Debbie – Iawn, dere mlaen te. Iawn dyma’r tatws wedi gratio i wneud y Rosti Tatws.

Leon – Felly mae’r badell wedi poethi.

Debbie – Ydy, rydw i jyst yn mynd i roi hwn mewn.

Leon – Gwrandewch ar hwnna.

Plentyn – Mae’n sïo.

Leon – Felly am ba mor hir wyt ti’n mynd i adael hwn yn y badell Debbie?

Debbie - Wel rydw i’n mynd i goginio un ochr a’i droi drosodd tan ei fod yn frown ar y ddwy ochr.

Leon – Ydych chi’n mynd i’w fflipio fel crempog?

Debbie – Na

Dydd Llun
Dewch i Fwyta
Dydd Mawrth
Dewch i Gefnogi
Dydd Mercher
Dewch i Ddawnsio
Dydd Iau
Dewch i Gofio
Dydd Gwener
Dewch i Chwerthin