Simon:
My name is Simon Weston, I’m a former Welsh Guardsman, involved in the Falklands War, and am here today at Hawthorn School, to talk to the young people about Remembrance and about the wartime diet. How important eating, and eating correctly is, being in battle is incredibly scary, very noisy, and it’s very scary, it’s what it is, it is battle, its war and the clue is in the title.
War sees very nice people do very nasty things, and unfortunately young men die, and you learn something very quickly about doctors. There are two rules in war, first rule is, young men die and second rule is, there is nothing doctors can do about rule one.
So you know the fact is, that war is very very scary and you eventually will see a lot of things you will prefer not to see. I hate war, I really hate war, not because I got injured, I hate the fact that we have to them, but I’m so pleased we have people who are prepared to defend people because of that, and that’s what Remembrance is for me. It’s to remember all my friends, it’s to remember all the people I knew or have met over my time, who have gone to war and not come home.
Remembrance is so very important to me from a personal and a former professional level, but very much on a personal level because of my family, most of my family served, whether it was in the second world war or in the forces since. I was born in the forces, but its very important to me to remember the sacrifice that people make to try to maintain a balance in the world, and to keep the world free as it possibly can be, and free from dictators, from vile despots, from evil people who want to impose their will upon others.
For me it’s also to remember my friends, to remember the people I served with, that I would be so very happy to share another five minutes with. There are 48 men still on board the Sir Galahad, who would love to have my problems, and as long as I keep that in my heart and in my head, there is not much in the world that really should or could get me down.
The Poppy Appeal is one of the finest campaigns that was ever engineered, it was a way, years ago for the Royal British Legion to be able to help returning service persons so that they then could have access to better healthcare, better homes, better needs, better information, better education, better healthcare. There were homes that were specially designated to the British Legion. There were huge amounts of things, but not just for the service personnel, which is what it was first originated for, but for the families as well and it still does the same thing. It still puts a huge amount into education; it puts a huge amount into information. It helps in so many different ways, it has an awful lot of wonderful and very able workers on the ground, who go around and speak to different people, whether it’s informing them about what the Legion does, or whether it’s giving people the opportunity to access different benefits, but that could be physical benefits, or financial or emotional benefits. Whatever is necessary, whether it’s a specialised bed or a specialist wheelchair, whether it’s prosthetic legs, arms, whatever it may be. The Legion work tirelessly, but they work for every group and they work for every conflict.
It’s hugely important when you’re out in the field, when you’re doing your job and you’re actually on patrol or you’re facing the enemy, it’s hugely important to keep your energy levels up. To get as much rest as you can, drink as much fluid as you can, but also to eat, and the rations that you get as a service person, they may not be the nicest, but they are packed with all the right type of nutrients and calories, that you need to be able to sustain you over a period of time. A service person can burn anywhere between 5000 and 7000 calories in a god given 6 or 7 hours. They burn a huge amount of energy so they do need to replace that. That’s why most service personnel are so slim and fit and muscular, it’s because they eat correctly. Food was absolutely essential in the early days of my recovery, and later on, but I needed so much food to be able to heal. I needed to be putting coal on my own fire, and I was so poorly and I’d lost so much weight, that they had given me these thick gluey drinks, like glucose syrupy drinks, they were laden with calories, something like 9000 to 10000 calories a bottle, and they weren’t very big bottles, but as I couldn’t take the volume of food, then clearly I was going to struggle and suffer as it went on. So I have to shovel all this stuff into me, but I was still eating 3 & 4 meals a day. But I’d lost in excess of 60% of my body weight. So I needed to put the weight back on, the problem in a hospital bed, instead of putting muscle on, you start to put fat on, so you’ve got to try and balance it at the right points. But I was eating large quantities, and it was great, but you have keep hydrated , sometimes you think you’re hungry, but actually what are is thirsty, so you’ve got to learn how that works, but yea it was hugely important, had I not eaten properly I would have died!
It’s a totally measurably thing for young people to eat properly, they grow properly, they are able to concentrate better, because they’re not hungry, they’re less agitated, less fidgety, if they eat the correct things then they tend to be calmer, they tend to be able to retain information better. I’m not saying that certain food groups give you a better memory, that’s something for other people to debate. What I’m saying is because they’re full, because they’re not hungry they’re able to concentrate, because they’re had plenty of juice, they’re not de-hydrated, because they’ve had a good wholesome meal, with all the right nutrients, then they tend not to put so much weight on
Student
Student: How did you feel when you first knew how badly burnt you were?
Simon:
Devastated. When I knew that my burns were so bad that I would look like this for the rest of my life. That my hands would be this way for the rest of my life that my career was over, that my sport was done. You know that I didn’t know what the future held for me then, I was still a young man, I was still only twenty, so I didn’t know what the world, you know, had and held for me, but I’m one of those people who will always find the positive eventually. I always believe that I’m going to win the lottery, whether it’s the lottery financially or the lottery of life; I’ve won it so many times, in different ways, so I have to believe that things are going to end up that way.
On board that ship, out of all the people on that, I was the worst injured to come back alive, that means I was the closest to the bomb when it went off, to survive.
If anybody’s got the right to say that he believes he can win the lottery, it’s me!
Cymru
Fy enw i yw Simon Weston, rwyf yn gyn-aelod o’r Gwarchodlu Cymreig, roeddwn yn rhan o Ryfel Ynysoedd Falkland, ac rwyf yma heddiw yn YsgolHawthorn, i siarad â’r bobl ifainc am Ddydd y Cofio ac am ddeiet cyfnod y rhyfel. Pa mor bwysig yw bwyta, a bwyta’n gywir, mae bod mewn brwydr yn anhygoel o ddychrynllyd, yn swnllyd iawn, ac mae’n ddychrynllyd iawn, dyna beth yw e, mae’n frwydr, mae’n rhyfel ac mae’r cliw yn y teitl. Mae rhyfel yn peri i bobl hyfryd wneud pethau cas iawn, ac yn anffodus mae dynion ifainc yn marw, ac rydych yn dysgu rhywbeth yn gyflym iawn am feddygon. Mae dwy reol mewn rhyfel, y reol gyntaf yw, mae dynion ifainc yn marw a’r ail reol yw, nid oes dim y gall meddygon ei wneud am reol un.
Felly gwyddoch y ffaith yw, bod rhyfel yn ddychrynllyd iawn, iawn ac yn y man gwelwch lawer o bethau y byddai’n well gennych beidio eu gweld. Rwyf yn casáu rhyfel, rwyf wir yn casáu rhyfel, nid achos imi gael fy anafu, rwyf yn casáu’r ffaith bod rhaid inni eu cael, ond rwyf mor hapus bod pobl gyda ni sy’n barod i amddiffyn pobl oherwydd hynny, a dyna beth yw Dydd y Cofio i mi. Mae’n bodoli i gofio am fy holl ffrindiau, i gofio am yr holl bobl roeddwn yn eu hadnabod neu rwyf wedi cwrdd â hwy yn ystod fy amser, ac sydd wedi mynd i ryfel heb ddychwelyd adref.
Mae Dydd y Cofio mor arbennig o bwysig i mi o safbwynt personol ac yn gynt o safbwynt proffesiynol, ond i raddau helaeth ar lefel bersonol oherwydd fy nheulu, mae mwyafrif fy nheulu wedi gwasanaethu, ai yn yr ail ryfel byd neu yn y lluoedd arfog ers hynny. Cefais fy ngeni yn y lluoedd arfog, ond mae’n bwysig iawn i mi i gofio’r aberth mae pobl yn ei wneud i geisio cynnal cydbwysedd yn y byd, ac i gadw’r byd yn rhydd rhag unbeniaid, rhag gormeswyr ffiaidd, rhag pobl ddrwg sydd eisiau gorfodi’u hewyllys ar eraill.
I mi mae hefyd i gofio fy ffrindiau, i gofio’r bobl roeddwn yn gwasanaethu gyda hwy, y byddwn mor hapus i rannu pum munud arall gyda hwy. Mae 48 o ddynion ar fwrdd y Sir Galahad o hyd, a fyddent wrth eu boddau i gael y problemau sydd gyda fi, a chyhyd â rwyf yn cadw hynny yn fy nghalon ac yn fy mhen, nid oes llawer yn y byd a ddylai neu a allai beri imi deimlo’n isel.
Mae Apêl y Pabi’n un o’r ymgyrchoedd gorau a ddyfeisiwyd erioed, blynyddoedd yn ôl, roedd yn ffordd i’r Lleng Brydeinig i allu helpu pobl o’r lluoedd arfog a oedd yn dychwelyd er mwyn iddynt gael mynediad i ofal iechyd gwell, cartrefi gwell, anghenion gwell, gwybodaeth well, addysg well, gofal iechyd gwell. Roedd cartrefi a ddynodwyd yn arbennig i’r Lleng Brydeinig. Roedd llawer iawn o bethau, ond nid ar gyfer personél y lluoedd arfog yn unig, fel oedd y bwridad gwreiddiol, ond ar gyfer y teuluoedd hefyd ac mae’n gwneud yr un peth o hyd. Mae o hyd yn cyfrannu llawer tuag at addysg; mae’n cyfrannu llawer tuag at gwybodaeth. Mae’n helpu mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, mae ganddi lawer o weithwyr rhyfeddol a galluog iawn ar y tir, sy’n mynd o gwmpas i siarad â phobl wahanol, ai er mwyn eu hysbysu ynghylch yr hyn mae’r Lleng yn ei wneud, neu’n rhoi’r cyfle i bobl gael mynediad i fuddion gwahanol, ond gallai hynny fod yn fuddion ymarferol, neu fuddion ariannol neu emosiynol. Beth bynnag sy’n angenrheidiol, ai’n wely arbenigol neu’n gadair olwyn arbenigol, ai’n goesau neu freichiau prosthetig, beth bynnag y gallai fod. Mae’r Lleng yn gweithio’n ddiflino, ond maent yn gweithio dros bob grŵp a thros bob anghydfod.
Mae’n hynod o bwysig pan ydych allan yn y maes, pan ydych yn gwneud eich gwaith a rydych ar batrôl mewn gwirionedd neu rydych yn wynebu’r gelyn, mae’n ofnadwy o bwysig i gadw lefel eich egni i fyny. I orffwys gymaint ag y gallwch, i yfed cymaint o hylif ag y gallwch, ond hefyd i fwyta, ac mae’r dognau rydych yn eu cael fel rhywun yn y lluoedd arfog, efallai nad ydynt y rhai hyfrytaf , ond maent yn llawn y math iawn o faetholion a chalorïau sydd angen arnoch er mwyn eich cynnal dros gyfnod o amser. Gall rhywun yn y lluoedd arfog losgi rywle rhwng 5000 a 7000 o galorïau o fewn 6 neu 7 awr. Maent yn llosgi swm anferth o egni felly mae angen cael mwy yn ei le. Dyna pam mae’r mwyafrif o bersonél yn y lluoedd arfog mor fain a chyhyrog, mae oherwydd maent yn bwyta’n gywir. Roedd bwyd yn gwbl hanfodol yn nyddiau cynnar fy ngwellhad, ac yn ddiweddarach, ond roedd angen gymaint o fwyd arnaf er mwyn iacháu. Roeddwn eisiau rhoi glo ar fy nhân fy hunan, a roeddwn mor wael a roeddwn wedi colli cymaint o bwysau, eu bod wedi rhoi’r diodydd gludog trwchus hyn imi, fel diodydd glwcos gorfelys, a oedd yn llawn calorïau, rywbeth fel 9000 i 10000 y botel, ond nid oeddynt yn boteli mawr iawn, ond gan nad oeddwn yn gallu derbyn llawer o fwyd, yna roedd yn amlwg y byddwn yn stryffaglio a dioddef wrth iddo fynd ymlaen. Felly mae rhaid imi rofio’r holl bethau hyn i mewn i’m hunan, ond roeddwn o hyd yn bwyta 3 neu 4 pryd o fwyd y dydd. Ond roeddwn wedi colli mwy na 60% o bwysau fy nhorff. Felly roedd angen imi godi’m pwysau eto, y boblem mewn gwely ysbyty yw, yn lle cynyddu cyhyrau, rydych yn cynyddu braster, felly mae rhaid ichi geisio cyflawni cydbwysedd ar y pwyntaiau iawn. Ond roeddwn yn bwyta llawer iawn, a roedd yn wych, ond mae rhaid ichi gael digon o ddŵr, weithiau rydych yn meddwl bod eisiau bwyd arnoch, ond mewn gwirionedd mae syched arnoch, felly mae rhaid ichi ddysgu sut mae hynny’n gweithio, ond roedd yn hynod o bwysig, pe na fyddwn wedi bwyta’n iawn byddwn wedi marw!
Mae pobl ifanc yn bwyta’n iawn yn beth y gellir ei fesur yn gyfangwbl, maent yn tyfu’n iawn, gallant ganolbwyntio’n well, oherwydd nad oes eisiau bwyd arnynt maent yn cynhyrfu’n llai, maent yn gwingo’n llai, os ydynt yn bwyta’r pethau cywir maent yn tueddi i fod yn dawelach, maent yn tueddu i fod yn gallu cadw gwybodaeth yn well. Nid wyf yn dweud bod rhai grwpiau o fwyd yn rhoi cof gwell ichi, dyna rywbeth i bobl eraill ei drafod. Yr hyn rwyf yn ei ddweud yw oherwydd eu bod yn llawn, oherwydd nad oes eisiau bwyd arnynt gallant ganolbwyntio, oherwydd eu bod wedi cael digon o suddion ffrwythau, nid ydynt wedi’u sychu, oherwydd eu bod wedi cael pryd o fwyd maethlon da, â’r holl faetholion iawn, yna nid ydynt yn tueddu i gynyddu eu pwysau gymaint.
Myfyriwr/myfyrwraig: Sut oeddech yn teimlo ar ôl dod i wybod pa mor wael roeddech wedi’ch llosgi?
Wedi’m dinistrio. Pan oeddwn yn gwybod bod fy llosgiadau mor wael y byddwn yn edrych fel hyn am weddill fy mywyd. Y byddai’m dwylo fel hyn am weddill fy mywyd a bod fy ngyrfa drosodd, bod fy chwaraeon wedi dod i ben. Gwyddoch nad oeddwn yn gwybod beth fyddai’r dyfodol yn ei ddal imi pryd hynny, roeddwn o hyd yn ddyn ifanc, roeddwn dim ond ugain mlwydd oed o hyd, felly nid oeddwn yn gwybod beth oedd gan y byd imi a beth oedd y byd yn dal imi, ond rwyf yn un o’r bobl hynny a fydd yn dod o hyd i rywbeth cadarnhaol yn y man. Rwyf wastad yn credu y byddaf yn ennill y loteri, ai’r loteri ariannol neu loteri bywyd; rwyf wedi’i ennill gymaint o weithiau, mewn gwahanol ffyrdd, felly mae rhaid imi gredu y bydd pethau’n terfynu fel hynny.
Ar fwrdd y llong honno, allan o’r holl bobl ar honno, fi oedd yr un â’r anafiadau gwaethaf i ddychwelyd yn fyw, mae hynny’n golygu mae fi oedd yr agosaf at y bom pan ffrwydrodd, i oroesi.
Os oes gan unrhyw un hawl I ddweud ei fod yn credu ei fod yn gallu ennill y loteri, fi yw hwnnw!