Rydym yn mynd i wneud Biriani Llysiau. Rywf yn mynd i baratoi’r holl lysiau yma, 10 o lysiau gwahanol, mae’r un llysiau gyda chi, (seleri, corbwmpenni, pŷs, swedsen, puprynnau melys, moron, wylys, winwns, tomatos, bresych wen a brocoli).
Rydych chi, fel tîm, yn mynd i baratoi’r holl lysiau yna ynghŷd a’u rhoi mewn bowlen, fel wyf i wedi’i wneud.
Popeth yn iawn, rydym yn mynd i ddefnyddio padell ffrio iawn, ychydig o olew olewydd yn y gwaelod, mae olew olewydd yn olew hyfryd i’w ddefnyddio. Rydym yn mynd i dwymo’r badell honno.
Pan ydym yn twymo rydym yn chwysu ond ydym, ac mae’r hylif hwnnw’n dod allan o’n cyrff, dyna chwys, mae hynny wedi cael yr halen allan o’n cyrff ond ydy. Rydym eisiau gwneud i’r llysiau hyn chwysu yn y badell er mwyn i’r halen a’r siwgr sydd yn y bwydydd hynny ddod allan a maent yn dechrau coginio a blasuso wrth inni ei goginio.
Iawn
Rydym yn mynd i wneud iddynt chwysu yn y badell
Ydych chi’n clywed yr hisian yna?
Myfyrwyr
Ydym
Mae newydd ddechrau chwysu, rwy’n mynd i roi ychydig o arlleg ac ychydig o dsili arno. Mae’ch un chi wedi’i gymysgu ynghyd mewn pot. Iawn. Mae hynny’n mynd i mewn, hefyd mae ychydig o hadau llysiau’r ehedydd gyda ni. Iawn, ac ychydig o hadau ffenigl, dyna bedwar o berlysiau hyd yn hyn, rydym yn mynd i gynnwys ychydig o sinsir wedi’i falu, ychydig o garam masarla, sy’n gynhwysyn a ddefnyddir mewn llawer o gyrïau, ychydig o bupur wedi’i gracio neu wedi’i falu. Dyma saffrwm, mae hwn yn ddrud iawn, iawn, rydych yn ei ddefnyddio mewn darnau bach yn unig. Y perlysieuyn olaf sy’n mynd i mewn yw powdr cyri. Iawn, yn dibynnu ar ba mor boeth rydych yn hoffi’ch cyrïau, mae’n dibynnu ar ba bowdr cyri rydych yn ei ddefnyddio a faint rydych yn ei roi i mewn.
Edrychwch ar y lliwiau, dyna fe, yr holl berlysiau ynghyd.
Nawr rydym yn rhoi’r reis i mewn, (yn troi’r badell), nid wyf eisiau ichi wneud hynny, rwyf eisiau ichi ddefnyddio’r llwy a’i gymysgu i mewn. Iawn, yr hyn rydym yn ei wneud, rydym yn rhoi’r reis i mewn, nawr mae angen inni goginio’r reis, mae eisiau ychydig o hylif arno, felly mae ychydig o stoc llysiau gyda fi. Rwyf wedi gwneud y stoc llysiau ichi. Rydym yn ychwanegu’r stoc, yr hyn a fydd yn digwydd yw, wrth i’r reis ddechrau coginio bydd yn sugno’r hylif, bydd yn sychu’r badell, a bydd gennych ronynnau meddal sengl o reis.
Ble mae’ch perlysiau. Iawn, nawr cymerwch dro y naill ar ôl y llall, a gadewch i nifer gael tro, dechreuwch gymysgu’r perlysiau i mewn.
Iawn, a ydych chi i gyd wedi rhoi eich perlysiau i mewn?
Rhowch eich reis i mewn, cymysgwch eich reis i mewn ac yna rhowch eich stoc i mewn. Gadewch inni edrych ar hyn, mae hynny’n iawn. Ar ôl ichi roi’ch stoc i mewn, dewch o gwmpas i’r blaen os gwelwch yn dda.
Bron wedi gorffen, y peth olaf sy’n mynd i mewn yw’r coriander wedi’i rwygo yna. Iawn, rhowch hwnnw i mewn yn agos i’r diwedd, oherwydd rydym eisiau cadw’r dail gwyrdd a chael y gic fach hyfryd o’r llysieuyn sbeislyd poeth, puprog poeth sydd ynddynt. Iawn, a’r hyn sydd gyda ni nawr yw pryd o Firiani Llysiau cyflawn, iawn, mae sbeisys ganddo, edrychwch ar y lliwiau hyfryd ynddo.