Ar ddiwrnod Dewch I Greu, bydd sioe deithiol Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn ymweld ag Ysgol Cheswick Green, ble byddwn yn cyfarfod ag Idris Caldora o’r Cynllun Mabwysiadu Ysgol ar i gogyddion, sy’n cael ei redeg gan yr Academi Celf Coginio. Bydd Idris yn rhedeg dwy sesiwn ar gyfer disgyblion. Bydd y cyntaf yn trafod bwyta’n iach a grwpiau bwyd. Bydd yr ail yn sesiwn ymarferol paratoi salad a dysgu sut i ddefnyddio cyllyll yn ddiogel.
Yma, gallwch weld rhaglen Mabwysiadu Ysgol arall ble bydd disgyblion yn dysgu sut i goginio Biryani gan ddefnyddio deg llysieuyn. Mae’n wych gweld y bobl ifanc yn dysgu cydweithio wrth iddynt baratoi a choginio’r saig, a hyd yn oed yn golchi’r llestri wedyn. A ddywedodd rywun, ‘mae’n dreuni na wnânt hynny gartref’!
Dywedodd y myfyrwyr nad oeddent yn hoffi rhai o’r llysiau ar y dechrau, ond fe wnaethant ailfeddwl wedi blasu’r saig orffenedig. Yr oeddent wedi mwynhau cymaint nes y gwnaethant ofyn am gael y saig i ginio yn yr ysgol heddiw.
Gallwch lawrlwytho rhagor o daflenni gweithgareddau Get Eating o twinkl yn awr, ac maent yn cynnig gweithgareddau hwyliog a diddorol i’ch plentyn.