Ar hyn o bryd rydych yn: Cartref > Cymru 2011 > Dydd Mawrth

Dydd Mawrth

Heddiw yw Diwrnod Dewch I Deithio, a gefnogir gan  Bernard Matthews Foodservice.  Bydd thema Tsieineaidd heddiw, a bydd athrawon a disgyblion Ysgol Wirfoddol o Dan Gymorth St Pauls, Worlebury, Weston-super-Mare, yn cynorthwyo i addurno’r ffreutur. Bydd disgyblion yn gwisgo gwisgoedd Tsieineaidd a rhoddir tystysgrifau am y gwisgoedd gorau.

Bydd ysgolion eraill o amgylch y wlad yn creu thema gan ddefnyddio un o’r pum pecyn gwlad gwahanol sydd wedi’u darparu gan Bernard Matthews Foodservice.  Mae’r rhain i’w cael ar-lein, a gallwch lawrlwytho taflenni gweithgareddau, gêm snap, taflenni rysetiau a llawer iawn mwy.

Mae pecynnau ar gael ar gyfer Tsieina, India, Mecsico, yr Eidal a’r Deyrnas Unedig. Mae’r taflenni gweithgareddau yn rhai gwych i’w gwneud gyda phlant, gallwch adael iddynt eu gwneud eu hunain pan fydd hi’n bwrw neu os bydd arnynt eisiau gweithgaredd i’w wneud gartref. Efallai y bydd angen cymorth arnynt i wneud rhai gweithgareddau, ond maent yn hwyliog ac fe wnânt eu cynorthwyo i ddysgu am y gwledydd wrth iddynt chwarae.